Ers 2011 mae Ynni Da wedi bod yn cefnogi ysgolion trwy ddarparu gweithdai ynni, cynnig cyfleoedd i blant gwella'u sgiliau rhifedd a data, a chynnig cefnogaeth addysg ysbrydoledig.
Wedi'n lleoli yng Ngorllewin Cymru, mae Ynni Da yn teithio dros Gymru gyfan i ddarparu gweithdai ysbrydoledig a chynnig profiadau cyffrous i ddisgyblion.
Rydym yn darparu'n gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, gan ddefnyddio'n profiad helaeth ym myd addysg i ddarparu'r gwasanaethau hyn mewn ffordd unigryw sy'n gweddu i weithgareddau presennol yr ysgolion rydym yn ymweld â nhw.
Yn ogystal â bod yn berchennog ar Ynni Da, mae Aled Vaughan Owen hefyd yn athro gymwysedig, yn beiriannydd, yn drydanwr, ac yn entrepreneur. Rhyngddynt, mae gan Aled a'i staff dros 25 mlynedd o brofiad ym myd addysg a chynaladwyedd; golyga hyn fod gan Ynni Da'r gallu i ddarparu'r gefnogaeth gorau posib i ysgolion, colegau a phrifysgolion.